R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyflwyno baner y Deyrnas Unedig yn hytrach na baner Cymru ar drwyddedau gyrru? OAQ(4)2055(FM)W
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r sector addysg uwch yng Nghymru? OAQ(4)2058(FM)
3. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y problemau teithio sydd wedi deillio o waith i wella rheilffyrdd yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2057(FM)
4. Nick Ramsay (Mynwy): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant llaeth? OAQ(4)2051(FM)
5. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd signal ffôn symudol yn Sir Gaerfyrddin? OAQ(4)2047(FM)
6. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynd i mewn i addysg uwch ar hyn o bryd? OAQ(4)2046(FM)
7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru i gryfhau diwydiant amaethyddol Cymru yn 2015? OAQ(4)2060(FM)
8. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru am effeithiau rhaglen diwygio lles Llywodraeth y DU? OAQ(4)2049(FM)
9. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith yr ymgyrch Dewis Doeth y gaeaf hwn? OAQ(4)2050(FM)W
10. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun busnes ar gyfer canolfan rhanbarthol i fabanod newydd-anedig yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)2052(FM)W
11. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau cyfraddau hunanladdiad a hunan-niwed? OAQ(4)2061(FM)
12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd mewn trefi marchnad yng Nghymru? OAQ(4)2041(FM)
13. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am allu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru i ymdopi â'r galw? OAQ(4)2056(FM)W
14. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn Nhorfaen? OAQ(4)2048(FM)
15. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru? OAQ(4)2053(FM) TYNNWYD YNOL